Tebygolrwydd amodol

Tebygolrwydd amodol
Mathtebygolrwydd Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Diagram Euler, sy'n esbonio fod y tebygolrwydd amodol P(A) = 0.30 + 0.10 + 0.12 = 0.52. Fodd bynnag, mae P(A|B1) = 1, P(A|B2) = 0.12 ÷ (0.12 + 0.04) = 0.75, a P(A|B3) = 0.

Mae tebygolrwydd amodol yn fesur o debygolrwydd digwyddiad neu i rywbeth ddigwydd fel canlyniad i ddigwyddiad arall.[1]

Dyweder mai'r digwyddiad dan sylw yw A a bod digwyddiad B yn sicr wedi digwydd, yna "mae tebygolrwydd amodol o A dan amod B", fel arfer yn cael ei sgwennu fel P(A|B), neu weithiau PB(A) neu P(A/B). Er enghraifft, mae'r tebygolrwydd fod gan un person beswch ar ddiwrnod arbennig yn 5%, dyweder. Ond os gwyddom fod gan y person hwnnw annwyd trwm, yna mae'r siawns iddo fod yn peswch gryn dipyn yn uwch. Gall y siwns i berson gydag annwyd beswch fod mor uchel a 75%.

Disgrifiad drwy ddiagram Venn o debygolrwydd amodol.

Y cysyniad o debygolrwydd amodol yw un o'r cysyniadau mwyaf sylfaenol ac un o'r cysyniadau pwysicaf mewn damcaniaeth tebygolrwydd.[2] Ond gall tebygolrwydd amodol achosi tramgwydd, ac mae angen dehongli'n ofalus.[3] Er enghraifft, nid oes angen perthynas achosol rhwng A a B, ac nid oes rhaid iddynt ddigwydd ar yr un pryd.

  1. Gut, Allan (2013). Probability: A Graduate Course (arg. Second). New York, NY: Springer. ISBN 978-1-4614-4707-8.
  2. Ross, Sheldon (2010). A First Course in Probability (arg. 8th). Pearson Prentice Hall. ISBN 978-0-13-603313-4.
  3. Casella, George; Berger, Roger L. (2002). Statistical Inference. Duxbury Press. ISBN 0-534-24312-6.

© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search